Cabinet
21/11/2024 2.00 pm
YB 4, Neuadd y Sir, Cyfarfod Aml-Leoliad
O’r fan hon ymlaen byddwch yn gallu cael mynediad at adran weddarllediadau o gyfarfodydd byw y cyngor, gweld archifau cyfarfodydd y cyngor a gynhaliwyd yn ystod yr ychydig fisoedd olaf, gweld neu gwblhau unrhyw arolygon neu bleidleisiau a chael gafael ar unrhyw ddogfennau a chyflwyniadau sy’n gysylltiedig â’r gweddarllediadau.
Mae’r cyfarfodydd sydd eto i’w cynnal a’r cyfarfodydd diweddaraf i’w gweld ar ochr dde’r dudalen hon. I weld archif unrhyw gyfarfod diweddar, cliciwch ar deitl y cyfarfod yr ydych am ei weld. Os byddai’n well gennych ddefnyddio fersiwn testun o’r chwaraeydd, defnyddiwch y ddolen 'testun’ ar ben uchaf tudalen y chwaraeydd ar gyfer y cyfarfod yr ydych yn ei wylio.
Os yw’r gweddarllediad yr ydych am ei weld yn hŷn na’r rheiny sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr ddiweddaraf, yna ewch i’r dudalen gweddarllediadau sy’n cynnwys rhestr lawn o gyfarfodydd y cyngor sydd wedi'u harchifo. Os nad ydych yn gallu dod o hyd i gyfarfod penodol, yna defnyddiwch y cyfleuster chwilio. Bydd y blwch chwilio yn y bar llywio ar bob tudalen yn chwilio drwy'r teitl, disgrifiad ac allweddeiriau sy'n gysylltiedig â chyfarfod a dangos rhestr o gyfarfodydd perthnasol. Os ydych am wneud chwiliad mwy penodol (e.e. teitl yn unig) gallwch wneud hynny drwy'r dudalen chwilio manwl drwy gofnodi’r termau chwilio a pha faes yr ydych am chwilio ynddo ar ochr dde’r dudalen.
Yn y bôn, darllediad sain a fideo dros y rhyngrwyd yw gweddarllediad. Mae camerâu fideo yng nghyfarfodydd y cyngor yn cofnodi’r wybodaeth fyw ac yn ei hanfon i weinydd canolog, sydd yn ei dro yn ei hanfon at unrhyw un sydd am wylio’r cyfarfod. Drwy ddefnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd (boed hynny drwy gyfrwng band eang neu fodem deialu) a Windows Media Free Player gallwch wylio’r cyfarfodydd yn fyw yn eich cartref.
Petaech yn methu cyfarfod, neu’n awyddus i weld rhan o’r cyfarfod eto, yna gallwch weld copi archif o’r gweddarllediad. Mae’r archifau yn eich galluogi i wylio’r cyfarfod ar adeg sy'n gyfleus i chi a, thrwy ddefnyddio pwyntiau mynegai, rhoi'r gallu i chi neidio at bwynt neu siaradwr penodol ar yr agenda.
Tanysgrifiwch i gael gwybod drwy e-bost am weddarllediadau i ddod sydd o bwys i chi